Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-26-14

 

CLA453 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Yn benodol, mae’n diwygio’r ‘hawliau datblygu a ganiateir’ sydd gan weithredwyr cyfathrebu electronig yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn yn cynnwys nifer o ddiwygiadau manwl. Rhai o’r newidiadau mwyaf yw:

 

·         gellir codi uchder mastiau presennol ffôn symudol o uchder sydd hyd at 15 o fetrau i uchder sydd hyd at 20 o fetrau, a gellir eu lledaenu gan hyd at draean,

 

·         codi’r nifer a’r maint o antenna y gellir eu gosod ar rai mathau o adeiladau,

 

·         gellir gosod polion telegraff, cabinetau a llinellau band eang mewn ardaloedd fel Parciau Cenedlaethol ac AHNEau heb ganiatâd o flaen llaw, yn ddarostyngedig i amodau penodol.

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Craffu technegol

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Craffu ar rinweddau

 

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

 

·         Bydd yr hawliau datblygu a ganiateir ychwanegol yn galluogi, ymhlith pethau eraill, y gosodiad o fastiau uwch a mwy o antena dros Gymru, heb yr angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio.

 

Rheol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Hydref 2014

 

 

Ymateb y Llywodraeth (Saesneg yn Unig)

 

Nodyn gan yr Is-adran Gynllunio (Llywodraeth Cymru) mewn ymateb i adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

 

Meysydd sydd heb eu datganoli

1. Mae'r cyfrifoldeb am y ddeddfwriaeth benodol sy'n cwmpasu telathrebu yn faes nad yw wedi'i ddatganoli. Dyluniwyd y Cod Cyfathrebu Electronig i hwyluso'r gwaith o osod a chynnal a chadw rhwydweithiau cyfathrebu electronig ac mae'n rhoi hawliau i ddarparwyr rhwydweithiau o'r fath.  Mae Rheoliadau Cod Cyfathrebu Electronig (Amodau a Chyfyngiadau) 2003, sy'n gymwys yn y DU, yn ei gwneud yn ofynnol i Weithredwr Cod Cyfathrebu Electronig, lle bo'n ymarferol, rannu'r defnydd o gyfarpar cyfathrebu electronig. Cafodd y rheoliadau hyn eu diwygio y llynedd er mwyn cyflwyno cyfundrefn fwy caniataol (tan fis Mai 2018) ar gyfer gosod cyfarpar cyfathrebu electronig band eang llinell sefydlog uwchlaw'r ddaear.

 

Agweddau cynllunio defnydd tir

2. I'r graddau y mae gosod unrhyw gyfarpar yn gyfystyr â "datblygiad", bydd angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw. Mae gan Weithredwyr y Cod hawl datblygu penodol a ganiateir (PDR) yn barod o dan Ran 24 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 [paragraffau 1.1 ac 1.2 o'r Memorandwm Esboniadol (ME)].

 

Y polisi

3. Bwriedir i'r Gorchymyn diwygio hwyluso peth band eang llinell sefydlog a symudol yng Nghymru o fewn paramedrau sy'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng amcanion cynllunio defnydd tir i leihau'r effaith ar yr amgylchedd a'r amcanion datblygu economaidd. Bwriedir i'r ddarpariaeth ategu'r canlynol:

i) rhaglen bresennol Cyflymu Cymru lle cyflwynir band eang (â chymhorthdal) drwy gyfarpar llinell sefydlog;
ii) camau i gyflwyno gwasanaethau ffôn symudol yn dilyn Dyfarniad Spectrum gan OFCOM y llynedd a'r rhwymedigaeth o ran signal band eang ffonau symudol sy'n rhan o hynny;

iii) Prosiect Seilwaith Symudol Llywodraeth y DU.

Cafodd egwyddorion y polisi eu hadlewyrchu mewn cynigion mewn papur ymgynghori, sef “Proposed additional permitted development rights for Electronic Communications Code Operators (facilitating Broadband roll-out)”.

 

PDR newydd yn caniatáu i fastiau presennol gael eu cynyddu hyd at 20 metr mewn uchder 

4. Dim ond i fastiau daear presennol y mae hwn yn gymwys ac nid yw'n gymwys i dir o dan erthygl 1(5) nac o fewn SoDdGAau. Mae'n ddarostyngedig i'r un gofyniad i wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw (Rhan 24, A.2 (4) (b)) ag unrhyw fast arall [paragraff 1.3(b) i) o'r ME]. Drwy gynyddu uchder mastiau presennol gellir cario mwy o gyfarpar arnynt sydd, yn ei dro, yn darparu mwy o signal gan ddefnyddio llai o safleoedd.

 

 

 

Cynyddu nifer a maint yr antenau y gellir eu gosod ar rai adeiladau

5. Mae paragraffau presennol A.1(g) ac A.1(h) o Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 eisoes yn cyfyngu ar faint unrhyw antena dysgl unigol a maint cronnol antena dysgl y gellir ei osod ar adeilad unigol. Cyfyngir ar antena heb ddysgl (heblaw am antena bach) gan nifer y systemau antena a ganiateir ar adeilad. Erys y terfynau maint unigol ar gyfer antena dysgl yr un peth. Yr hyn sydd wedi cynyddu yw terfynau maint cronnol antena dysgl ar adeilad a'r terfyn o ran nifer y systemau antena ar adeilad. Drwy gynyddu'r terfynau hyn gwneir y defnydd mwyaf o safleoedd presennol drwy annog camau ehangu ar safleoedd presennol a rhannu cyfarpar ymysg gwahanol weithredwyr [paragraff 1.3 (b) (ii) o'r ME].

 

Ni fydd angen cael cymeradwyaeth i osod polion telegraff, cabinetau na llinellau band eang mewn ardaloedd fel Parciau Cenedlaethol ac AOHNEau, yn ddarostyngedig i amodau penodol. 

6. Mae paragraff newydd A.2(4A) o Ran 24 yn darparu gweithdrefn newydd dim ond ar gyfer -

“…….. the construction, installation, alteration or replacement of a telegraph pole, cabinet or line, in connection with the provision of fixed-line broadband, ………and provided that the development is completed on or before 30th May 2018”.

Roedd hyn yn un o'r prif gynigion ym mhapur ymgynghori Llywodraeth Cymru [mae paragraffau 4.2 i 4.3 o'r ME yn egluro'r rhesymau].

Mae unrhyw ddatblygiad Dosbarth A arall ee gosod cabinet neu bolyn telegraff ar dir erthygl 1(5) ar gyfer gwasanaethau ffôn eraill yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad i wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw.

 

Ymhlith pethau eraill, bydd yr hawliau datblygu ychwanegol a ganiateir yn caniatáu gosod mastiau uwch a mwy o ddysglau ledled Cymru, heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

7.1 Mae'r newidiadau yn ddarostyngedig i rwystrau a gwrthbwysau ee ni newidir y gofyniad i wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer mastiau. Nid yw'r newidiadau yn caniatáu mastiau daear newydd ar dir erthygl 1(5).

 

7.2 Rhan ganolog o'r newidiadau i seilwaith symudol yw annog gweithredwyr i wneud y defnydd mwyaf o seilwaith sy'n bodoli eisoes, lle bo modd, er mwyn lleihau'r angen am fastiau daear newydd.  Mae'r rhan fwyaf o weithredwyr bellach yn rhannu mastiau lle bynnag y bo modd. Mae dau gyn-weithredwr wedi uno ac mae dau weithredwr wedi llunio cytundeb rhannu seilwaith symudol rhyngddynt.

 

7.3 Mae PDR (hirsefydledig) gwahanol yn Rhannau 1.H a 25 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 eisoes yn caniatáu gosod nifer gyfyngedig o antenau microdon ar (neu o fewn cwrtil) anhedd-dy neu adeilad neu strwythur arall heb fod angen cael caniatâd cynllunio penodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.

 

7.4 Mae PDR Rhan 24 yn pennu terfynau a pharamedrau o ran pa waith datblygu a ddylai barhau i fod yn destun cais cynllunio penodol i'r awdurdod cynllunio lleol a pha waith datblygu a ddylai fod yn ddatblygiad a ganiateir o dan delerau'r PDR hwnnw. Er mwyn pennu terfynau'r hyn a ddylai fod yn ddatblygiad a ganiateir rhaid taro cydbwysedd. Mae darpariaeth PDR Rhan 24 ar gyfer mastiau yn hirsefydledig ond mae hyn eisoes yn destun y gofyniad i wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw ac erys felly.

 

                                                     Yr Is-adran Gynllunio

                                                      Hydref 2014